

Llety
Mae Black Mountain Lodge a’r bwthyn yn lleoliad gwych ar gyfer Gwely a Brecwast gydag ystafelloedd dwbl, pâr a bync, pob un yn en-suite. Rhagor o wybodaeth…
Canolfan Weithgareddau
Canolfan a drwyddedir gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau (AALA) a Bwrdd Croeso Cymru yw Black Mountain Activities Ltd, a hynny ar gyfer gweithgareddau canŵio a cherdded ceunentydd. Rhagor o wybodaeth…
Penwythnosau a Phartïon Gweithgareddau Stag a Phlu
Os oes arnoch awydd penwythnos o antur ym Mannau Brycheiniog, yna mae gennym ddewis rhagorol o weithgareddau ar eich cyfer, fel Canŵio, Caiacio ar Afon Gwy neu, ar gyfer y rhai mwy anturus, mae gennym ein gweithgaredd hynod boblogaidd a chyffrous – partïon stag a phlu y mae pawb eisiau mynd iddyn nhw, a diwrnod o antur yn cerdded ceunentydd y Mynydd Du.
Gwyllt a Gwlyb yng Nghymru
[box style=”note”]Os ydych yn chwilio am benwythnos o weithgareddau caled a di-baid – mae gennym yr union beth!!
Archebwch trwyddom ni’n syth.[/box]
Gyda Black Mountain Activities byddwch yn canfod detholiad o benwythnosau a phartïon stag a phlu sy’n llawn antur. Maen nhw ar gael drwy gydol y flwyddyn ac yn llawn o bobl sy’n cael amser wrth eu boddau.
[box style=”note”]Mae’r diwrnodau gweithgareddau awyr agored yn llawn dop o anturiaethau, i gyd-fynd â gallu o bob math.
[/box]Rydym yn cynnal partïon stag a phlu o safon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ers 20 mlynedd erbyn hyn. Mae gennym nifer o weithgareddau cyffrous o gaiacio, canŵio, dringo creigiau, adeiladu rafftiau, beicio mynydd, saethyddiaeth, saethu colomennod clai, ogofa, rhaffau uchel, rafftio dŵr gwyn a’n diwrnod hynod boblogaidd o gerdded ceunentydd! Gallwch ddewis o’r rhain i gyd neu logi canŵau neu feiciau mynydd a mynd i ffwrdd am y diwrnod.
Nid oes yn rhaid i’r cyfan o’n penwythnosau gweithgareddau stag a phlu fod yn antur galed, ddi-baid. Rydym hefyd yn cynnig gweithgareddau ychydig ysgafnach, fel canŵio, lle gallwch logi canŵ am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. At hyn, rydym yn cynnig saethyddiaeth, saethu colomennod clai neu adeiladu rafftiau.
[/two-third] [tabs align=”side”]
You must be logged in to post a comment.